Mwynhewch ein llyfryn Start Right i gael awgrymiadau astudio hanfodol ar gyfer eich wythnosau cyntaf yn USW.
Ar gyfer defnyddwyr Safari: ar gyfer is-deitlau Cymraeg, cliciwch ar logo'r is-deitlau o dan y fideo a dewiswch Iaith Anhysbys. Dim ond unwaith y mae angen gwneud hyn.
Ar gyfer pob porwr arall, lawrlwytho:
Cychwyn yn Iawn - Trawsgrifiadau fideo
Rydyn ni yma i'ch cefnogi ar eich taith academaidd, a gallwn wneud hyn trwy gynnal gweithdai ar bynciau sgiliau astudio a fydd yn ddefnyddiol i'ch cwrs, a darparu cefnogaeth un i un i chi fel y gallwch weithio yn eich cyflymder eich hun. Rydym yn cynnig gwasanaeth cynhwysol, yn cefnogi unrhyw fyfyriwr sydd â sgiliau astudio a mathemateg waeth beth fo'i angen dysgu neu lefel ei astudiaeth. Gallwn hefyd eich helpu i ddod o hyd i gyd-fyfyrwyr i rannu eich profiadau gyda, ac i gymryd rhan wrth helpu myfyrwyr eraill hefyd.
Ein
gwefan yw'r lle gorau i’ch cyfeirio at bopeth a gynigiwn gyda llawer o
adnoddau a mwy.
Rydym yn cynnig ystod o wahanol apwyntiadau, ar lein ar hyn o bryd, ac wyneb yn wyneb ar gais, trwy e-bost. Ar gyfer sgwrs fideo ac apwyntiadau ffôn anfonwch e-bost atom gyda'ch argaeledd.
Efallai yr hoffech chi ddysgu mewn grŵp, a gyda phobl eraill. Darganfyddwch pa weithdai rydyn ni'n eu cynnig a sut i'w harchebu. Gallwch hefyd ofyn am weithdy fel grŵp ar un o'r pynciau a gynigir os nad yw'r amseroedd yn gyfleus.
Mae'r
tiwtor Mathemateg wedi dewis ystod o ganllawiau ar bynciau amrywiol i'ch helpu
chi i ddatblygu eich mathemateg. Mae apwyntiadau ar gael ar gyfer cefnogaeth
unigol.
Mae
Tiwtoriaid Sgiliau Astudio Arbenigol wrth law i gefnogi myfyrwyr ag anghenion
dysgu penodol.
Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi siarad â myfyrwyr eraill am eu profiad yn y Brifysgol. Mae ein cynllun mentora myfyrwyr yn darparu cyfleoedd i chi wneud yn union hynny, ac efallai yr hoffech chi hyd yn oed gymryd rhan a dod yn Fentor eich hun.