Bydd y rhan fwyaf o gyrsiau yn gofyn am ddefnyddio sgiliau digidol sylfaenol, er enghraifft, i allu e-bostio, creu a golygu dogfennau, a chael mynediad i ddeunyddiau dysgu o amgylchedd dysgu'r brifysgol. I ddechrau, efallai y bydd rhai o'r tasgau hyn yn anghyfarwydd i chi, yn enwedig pan fyddwch chi'n symud i astudio ar lefel prifysgol.
Datblygu eich sgiliau digidol yn annibynnol
Efallai y byddwch am ddefnyddio deunyddiau hunan-astudio sydd ar gael i'ch helpu i ddod yn fwy hyfedr mewn TG yn eich amser eich hun.
Mae PDC hefyd yn darparu llawer o wasanaethaua chyfleusterau i helpu gydag unrhyw faterion sy'n ymwneud â TG, y Cyfryngau a Thechnoleg, a chefnogi eich dysgu seiliedig ar dechnoleg.
Weithiau, y ffordd orau yw siarad â rhywun!
Gallwn helpu gyda sgiliau digidol sylfaenol. Gallwch wneud cyswllt cychwynnol drwy e-bostneu ofyn i fentor digidol drwy glicio ar y ddelwedd ar y chwith. Gallwch hefyd wneud apwyntiad gyda thiwtor, a all eich helpu i ddechrau arni..
Mae amrywiaeth o adnoddau i'ch helpu i wella'ch sgiliau digidol yn eich amser eich hun. Mae rhai canllawiau am ddim o'r enw ‘Need to Know IT’ ar gael i'w casglu o'n canolfannau, ond mae gennym ystod llawer ehangach o'r canllawiau hyn ar gael ar-lein.
Sylwer - Cynnwys Allanol
Caiff cynnwys allanol ei farcio â seren*. Nid yw PDC yn gyfrifol am gynnwys, ansawdd neu argaeledd y cynnwys hwn, ac mae myfyrwyr yn gyfrifol am gydymffurfio ag unrhyw delerau ac amodau a allai fod yn berthnasol.