Gall Mathemateg fod yn agwedd heriol o'ch cwrs pan fyddwch chi'n symud i astudio yn y brifysgol. Siarad â ni am y Fathemateg, ystadegau neu rifedd sy'n rhan o'ch cwrs neu ddatblygu eich sgiliau'n annibynnol gan ddefnyddio ein hadnoddau dysgu ar-lein.
Weithiau, y ffordd orau yw siarad â rhywun! Mae ein tiwtor mathemateg arbenigol yn cynnig tiwtorialau anffurfiol mewn amgylchedd cyfeillgar, hamddenol. Gallwch drefnu apwyntiad ar gyfer tiwtorial yn unigol neu ar gyfer grŵp bach sy'n astudio'r un modiwl mathemateg neu ystadegau. Os ydych chi'n archebu lle ar gyfer grŵp yna e-bostiwch i roi gwybod i ni.
Mae angen sain a meicroffon ar gyfer tiwtorial ar-lein. Byddwch yn derbyn cyfarwyddiadau ar sut i ymuno â'ch tiwtorial ar-lein trwy e-bost i'ch cyfrif e-bost prifysgol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y fathemateg, yr ystadegau neu'r rhifedd yn eich cwrs, hoffwch gael help i ddod o hyd i adnoddau dysgu addas, neu jyst eisiau gwybod mwy am sut gallwn ni helpu, beth am ddefnyddio ein gwasanaeth Gofyn i Diwtor trwy anfon e-bost atom.
e-bost: [email protected]