Mae enghreifftiau o ganrannau o’n cwmpas ym mhob man. Efallai y gwelwch chi ganrannau’n cael eu defnyddio yn yr archfarchnad neu mewn siop pan mae ’na sêl mlaen.
Mae ‘per cent’ yn llythrennol yn golygu ‘o bob cant’. Felly pe gallen ni rannu’r cyfan yn 100 o rannau, byddai 10% yn cynrychioli 10 o’r 100 o rannau, byddai 25% yn 25 rhan, a byddai 50% yn 50 rhan.
Sylwch fod cymryd 50% yr un peth â chymryd hanner rhywbeth. Mae hefyd yn wir bod cymryd 25% yr un peth â chymryd chwarter, bod 20% yn un rhan o bump, a bod 10% yn un rhan o ddeg.
Mae morgeisi yn cael eu hysbysebu ar y cyfraddau canlynol. Pa un o’r banciau / cymdeithasau adeiladu sy’n rhoi’r gyfradd orau?
Alliance & Chester | 12.5% | Royal Bank of Wales | 5.5% |
Alternative Life | 8.3% | Southern Rock | 23.7% |
Lancashire Building Society | 7.6% | Uncooperative Bank | 19.2% |
Ateb
Royal Bank of Wales sy’n rhoi’r gyfradd llog isaf, ac felly dyma fyddai’r dewis gorau.
Ar garton o sudd ffrwythau, mae’r carton yn dweud mai’r cynnwys yw:
Sudd Oren | Sudd Pinafal | Rhin Mango | Rhin Papaia |
---|---|---|---|
40% | 30% | 25% | 15% |
Beth sydd o’i le â’r gosodiad hwn?
Ateb
Dylai’r gwerthoedd canran hyn adio i roi 100%, ond maen nhw’n adio i roi 110%, sy’n amhosibl.
Mae’r siop esgidiau ar y stryd fawr yn cau, felly rwy’n galw i mewn i weld a allaf ddod o hyd i fargen. Mae pob pâr o esgidiau’n cael eu gwerthu gyda 50% oddi ar bris y tocyn. Rwy’n dod o hyd i bâr neis iawn o esgidiau ac mae’r tocyn arno’n dweud £60. Faint fydd yn costio i mi brynu’r pâr hwn o esgidiau?
Ateb
Mae modd meddwl am y pris gwreiddiol fel y 100% llawn, ac mae angen i ni ddod o hyd i’r pris gostyngedig.
Felly, o faint mae’r pris wedi gostwng? Y gostyngiad yw 50%, neu 50 rhan o 100 rhan o’r pris gwreiddiol. Pan ddarllenwn ni’r geiriau o’r pris gwreiddiol, fe allwn ni roi lluosi â’r pris gwreiddiol yn ei le, ac ysgrifennu
Felly mae’r esgidiau’n cael eu gwerthu am £30 oddi ar y pris gwreiddiol, sy’n gadael £30 i’w dalu.
Efallai’r oeddech chi’n gwybod yn syth bod ‘50% i ffwrdd’ yn golygu’r un peth â dweud ‘hanner pris’, ac fe allech chi fod wedi cyfrifo’n syth mai hanner £60 yw £30.
Darganfod Canran
I wybod gwir werth canran, mae angen i ni wybod canran o beth ydy e. Er enghraifft, yn ein siop esgidiau yn Enghraifft 3, roedd 50% oddi ar pob pâr o esgidiau. Ar gyfer pâr o esgidiau £60, mae hyn yn golygu £30 oddi ar y pris, ond petawn i wedi dewis pâr o esgidiau £20, gostyngiad o £10 yn unig fyddai.
Y marc i lwyddo mewn arholiad yw 60%, ac mae 40 o gwestiynau ar daflen yr arholiad. Sawl cwestiwn sydd angen i mi gael yn gywir er mwyn llwyddo yn yr arholiad?
Ateb
Petawn i’n cael pob cwestiwn yn gywir, fe fyddwn i’n cael sgôr o 100%. Yn ffodus, dim ond 60%, neu 60 am bob 100 o’r cwestiynau sydd angen i mi gael yn gywir. Dim ond 40 cwestiwn sydd, felly dewch i ni gymryd chwedeg rhan o gant o’r 40 cwestiwn yma.
Felly mae 24 o bob 40 cwestiwn yn cyfateb i 60%, a chyhyd â fy mod i’n medru ateb o leiaf 24 cwestiwn yn gywir, fe fyddaf yn llwyddo yn yr arholiad.
I fynegi un maint fel canran o faint arall, yn gyntaf mae angen i ni fynegi hyn fel cyfran, ac wedyn trosi hyn yn ganran drwy luosi â 100.
Mewn arholiad, fe lwyddais i ateb 18 cwestiwn yn gywir o gyfanswm o 30. Beth yw fy sgôr fel canran?
Ateb
Yn y cwestiwn yma, mae gofyn i ni drosi i ganran. Os yw 100% yn cynrychioli’r cyfan, neu yn yr achos hwn, cyfanswm nifer y cwestiynau, mae gofyn inni ganfod sawl rhan o’r 100 fyddai gennym ni? Hynny yw, sawl rhan o’r 100 mae 18 o 30 yn cyfateb iddo?
I wneud hyn, rydyn ni’n cymryd ein cyfran a’i luosi â 100
Felly rydw i wedi sgorio 60% yn yr arholiad hwn.
Mae fy nhun o afalau a gellyg yn cynnwys 35% afal a 40% surop. Pa ganran ohono sy’n ellyg?
Mae cynnig arbennig ar y brand o fagiau te rwy fel arfer yn eu prynu. Y cynnig yw 25% Ychwanegol Am Ddim. Fel arfer, rwy’n prynu pecyn o 48 bag te. Sawl bag te fydd yn fy mhecyn y tro hwn?
Y marc i lwyddo mewn arholiad yw 40%, ac mae 25 cwestiwn ar daflen yr arholiad. Sawl cwestiwn sydd angen i mi gael yn gywir er mwyn llwyddo yn yr arholiad?
Roedd clociau larwm yn gwerthu am £25 ond maen nhw wedi’u gostwng i £20. Pa ganran o ostyngiad mae hyn yn ei gynrychioli o gymharu â’r pris gwreiddiol?
Pa un yw’r mwyaf, 25% o 32 neu 20% o 35 neu 15% o 40?
Mae gen i £5,000 mewn cyfrif cymdeithas adeiladu gyda chyfradd llog o 4.1% y flwyddyn. Faint o log fyddaf i wedi’i ennill erbyn diwedd y flwyddyn?
Dros gyfnod o flwyddyn, mae Jake yn cael y marciau canlynol yn ei arholiadau. Pa un yw pwnc gorau Jake?
Cyfrifeg a Chyllid | Algebra | Trigonometreg | Calcwlws |
---|---|---|---|
47 allan o 80 | 39 allan o 70 | 32 allan o 40 | 41 allan o 50 |
Mae tocynnau i’r Clwb Comedi yn costio £12 wrth y drws. Mae gostyngiad o 15% wrth archebu ymlaen llaw dros y we. Faint fydd fy nhocyn yn costio pe byddwn i’n archebu ar-lein?