Mae cymhareb yn gymhariaeth rhwng dau neu ragor o werthoedd, sydd fel arfer yn cael ei hysgrifennu gyda cholon rhwng y gwerthoedd. Er enghraifft, fe fyddem ni’n darllen y gymhareb 3:4 fel ‘tri i bedwar’.
Cymrwch fod arlliw penodol o baent llwyd yn cael ei greu drwy gymysgu 3 rhan o baent du gyda 4 rhan o baent gwyn, wedyn mae’r paent du a gwyn wedi’u cymysgu yn y gymhareb 3:4. Petai cwestiwn yn gofyn i ni beth yw cymhareb y paent gwyn i’r paent du, byddai’n rhaid i ni ddweud 4:3. Felly mae’n bwysig ein bod ni’n cael ein cymhareb yn y drefn gywir.
I wneud cymhariaeth rhwng gwybodaeth sy’n cael ei rhoi ar ffurf cymarebau, fe allwn ni gyfrifo meintiau uned. Hynny yw, canfod beth yw gwerth un rhan.
Mae fy hoff fagiau te ar gael mewn bocsys o 48 neu 80. Mae’r bocs sy’n cynnwys 48 bag te yn costio £1.20 ac mae’r bocs sy’n cynnwys 80 bag te yn costio £1.92. Pa focs sy’n rhoi’r gwerth gorau?
Sut ydyn ni’n cymharu’r prisiau? Darganfyddwch y gost fesul bag te yn y naill focs a’r llall
Bocs bach: 120 ceiniog ÷ 48 = 2.5 ceiniog am un bag te
Bocs mawr: 192 ceiniog ÷ 80 = 2.4 ceiniog am un bag te
Mae’r gost fesul bag te yn llai yn y bocs mwyaf, felly’r bocs mawr sy’n cynnig y gwerth gorau.
I symleiddio cymhareb, rhannwch bob term â rhif sy’n rhannu’r ddau.
Symleiddiwch y gymhareb 9:12.
Gall y ddau rhif gael ei rannu â thri, felly gallwn ysgrifennu’r gymhareb fel 3:4.
Y maint o reis sydd ei angen ar gyfer un person yw: 200 g ÷ 4 = 50 g y person
Felly ar gyfer 6 o bobl, bydd angen: 6 × 50 g = 300 g
Weithiau efallai y byddwn eisiau rhannu maint mewn cymhareb. I wneud hyn, rydyn ni’n
Yn ei ewyllys, mae Ewythr Joe wedi gadael ei gynilon o £10,000 i’w rannu rhwng ei ferch a’i ŵyr yn y gymhareb 7:3. Faint o arian fydd y naill a’r llall yn ei dderbyn?
Mewn sach mae gen i 8 pêl ddu a 3 pêl goch. Beth yw cymhareb y peli coch i’r peli du?
Pa un o’r poteli dŵr canlynol yw’r rhataf?
Welsh Wizard | Irish Mist | Eau Francais | Scotch Broth |
---|---|---|---|
£1.62 am 2 litr | £3.20 am 4 litr | £1.35 am 0.5 litr | £4.48 am 7 litr |
Ysgrifennwch y gymhareb 21:49 yn ei ffurf symlaf.
Mae bar siocled yn cynnwys 40 darn. Bwytodd Alex 20 darn, bwytodd Bernard 16 darn a bwytodd Charles 4 darn. Mynegwch hyn fel cymhareb yn ei ffurf symlaf.
Mae cymysgedd sy’n cael ei ddefnyddio i greu concrit yn cynnwys 1 rhan sment, 2 ran tywod a 4 rhan graean. Os oes 6 sach o dywod yn cael eu defnyddio, sawl bag o sment a graean sy’n cael eu defnyddio?
Mae cant tri deg pum punt am gael ei rannu rhwng Alex, Bernard a Charles yn y gymhareb 3:2:4. Faint fydd pob un yn derbyn?
Mae ffotograff sy’n mesur 4” × 6” am gael ei ehangu yn y gymhareb 5:2. Pa faint fydd y ffotograff newydd?
Hoffwn i leihau maint poster yn y gymhareb 12 : 7. Maint y gwreiddiol yw 60cm × 84cm. Beth fydd maint y poster newydd?