Nod y tîm sgiliau astudio arbenigol yw lleihau unrhyw anawsterau sy'n gysylltiedig ag anabledd y gallech ddod ar eu traws yn eich gwaith academaidd. Mae tiwtoriaid sgiliau astudio arbenigol yn cynnig sesiynau sgiliau astudio 1-1 sy'n galluogi myfyrwyr i adeiladu eu sgiliau academaidd i'w galluogi i astudio a dysgu'n effeithlon. Mae'r sgiliau hyn yn amrywio o elfennau sylfaenol megis gramadeg ac atalnodi i arddulliau ysgrifennu academaidd, ymchwilio, cyfeirnodi, dadansoddi, myfyrio a rheoli amser.
Ariennir cymorth sgiliau astudio arbenigol fel rhan o becyn Lwfansau Myfyrwyr Anabl (DSA).
Mae tiwtoriaid sgiliau astudio arbenigol yn canolbwyntio ar feysydd anhawster a nodwyd yn eich adroddiad Diagnostig a'ch Adroddiad Asesu Anghenion. Gall y rhain amrywio:
- Torri i lawr gwestiynau aseiniad
- Cynllunio a strwythuro aseiniadau
- Rheoli amser
- Strategaethau i reoli materion gyda sylw a chof
- Arweiniad ar ddefnyddio technoleg gynorthwyol (Mae hyn yn gyfyngedig i hanfodion gan mai cyfrifoldeb myfyrwyr yw archebu a mynychu sesiynau hyfforddi gyda darparwyr technoleg).
Nid yw tiwtoriaid sgiliau astudio yn ....
- Cywiro bob gwall sillafu neu ramadeg unigol er bod tiwtoriaid yn rhoi arweiniad ar sut i wneud hyn.
- Gwaith prawfddarllen (gall tiwtoriaid helpu i ddatblygu sgiliau darllen proflenni).
- Dod o hyd i ddeunyddiau ymchwil ar gyfer myfyrwyr.
- Newid cynnwys gwaith myfyrwyr
(cyfrifoldeb y myfyriwr yw'r holl waith a gyflwynir a rhaid iddo fod yn waith y myfyriwr ei hun).
Sgrinio ac asesiadau i benderfynu pa gymorth sydd ei angen ar fyfyrwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) neu Anghenion Dysgu Penodol (ADP).
Technolegau a chymwysiadau cynorthwyol ac addasol sy'n gwneud dysgu'n haws i fyfyrwyr ag ADY/ADP.